Ezra 7

Esra yn arwain grŵp arall o bobl yn ôl i Jerwsalem

1Flynyddoedd wedyn,
7:1 Tua 58 mlynedd ar ôl hanes cysegru'r deml yn pennod 6
pan oedd Artaxerxes
7:1 Artaxerxes Artaxerxes I (oedd yn teyrnasu 465–425 CC).
yn frenin Persia, dyma Esra yn symud i Jerwsalem o Babilon. (Esra oedd mab Seraia ac ŵyr Asareia fab Chilceia,
2ac roedd ei deulu yn ymestyn yn ôl drwy Shalwm, Sadoc, Achitwf, 3Amareia, Asareia, Meraioth, 4Seracheia, Wssi, Bwcci, 5Afishŵa, Phineas ac Eleasar, i Aaron y prif-offeiriad.) 6Hwn oedd yr Esra ddaeth yn ôl o Babilon. Roedd yn arbenigwr yn y Gyfraith roddodd yr Arglwydd, Duw Israel, i Moses. Roedd y brenin Artaxerxes wedi rhoi iddo bopeth roedd wedi gofyn amdano, am fod llaw yr Arglwydd ei Dduw arno.

7Yn ystod seithfed flwyddyn teyrnasiad y Brenin Artaxerxes
7:7 seithfed flwyddyn … Artaxerxes 458 CC
, dyma Esra yn arwain rhai o bobl Israel yn ôl i Jerwsalem (gan gynnwys rhai o'r offeiriaid, Lefiaid, cantorion, gofalwyr y giatiau, a gweision y deml).
8Cyrhaeddodd Jerwsalem yn y pumed mis o'r flwyddyn honno. 9Roedd wedi trefnu i ddechrau'r daith ar ddiwrnod cynta'r flwyddyn
7:9 flwyddyn Hebraeg, “mis cyntaf”, sef Abib (sydd hefyd yn cael ei alw yn Nisan). Mis cyntaf y calendr Hebreig sy'n rhedeg o tua canol Mawrth i ganol Ebrill.
, ac wedi cyrraedd Jerwsalem ar ddiwrnod cynta'r pumed mis.
7:9 pumed mis Af, pumed mis y calendr Hebreig, o tua canol Gorffennaf i ganol Awst. Roedd y daith o Babilon i Jerwsalem yn daith o tua 800 milltir.
Roedd Duw gydag e.
10Roedd Esra yn ddyn oedd wedi rhoi ei fywyd i astudio cyfraith yr Arglwydd, i'w chadw, ac i ddysgu beth oedd ei gofynion i bobl Israel.

Llythyr Artaxerxes i Esra

11Dyma gopi o'r llythyr roddodd y Brenin Artaxerxes i Esra yr offeiriad oedd yn arbenigwr yn y Gyfraith (sef gorchmynion yr Arglwydd a'i ganllawiau i Israel):

12
7:12 Mae Esra 7:12-26 wedi ei ysgrifennu yn yr iaith Aramaeg. Aramaeg oedd iaith weinyddol Ymerodraeth Persia.
“Artaxerxes, sy'n frenin ar frenhinoedd,
At Esra yr offeiriad a'r arbenigwr yn y Gyfraith mae Duw y nefoedd wedi ei rhoi.
Cyfarchion!
13Rwyf wedi rhoi gorchymyn yn dweud fod unrhyw un o bobl Israel sy'n byw yn y deyrnas, ac eisiau mynd gyda ti i Jerwsalem i gael gwneud hynny – hyd yn oed offeiriaid a Lefiaid. 14Mae'r brenin, a'i saith cynghorwr, yn dy awdurdodi di i gynnal ymchwiliad i weld os ydy cyfraith dy Dduw yn cael ei chadw.
15Rwyt hefyd i fynd ag arian ac aur gyda ti. Mae'r brenin a'i gynghorwyr am roi offrwm gwirfoddol i Dduw Israel sy'n byw yn Jerwsalem. 16Hefyd cei fynd a'r holl arian a'r aur fyddi wedi llwyddo i'w gasglu gan dy bobl dy hun a'r offeiriaid sy'n byw yma yn nhalaith Babilon, ac sydd eisiau cyfrannu at deml eu Duw yn Jerwsalem. 17Mae'r arian yma i'w ddefnyddio i brynu teirw, hyrddod, ŵyn, a'r offrymau o rawn a diod sy'n mynd gyda nhw. Dos â nhw at allor teml dy Dduw yn Jerwsalem. 18Wedyn gelli ddefnyddio unrhyw arian ac aur sy'n weddill i wneud beth bynnag wyt ti a dy gyd-offeiriaid yn ei feddwl sydd orau – beth bynnag wyt ti'n feddwl mae dy Dduw eisiau. 19Dos â'r llestri sydd wedi eu rhoi i ti ar gyfer gwasanaeth y deml, a'u rhoi nhw i dy Dduw yn Jerwsalem. 20Ac os oes rhywbeth arall sydd ei angen ar gyfer y deml, gelli gymryd yr arian i dalu amdano o'r trysordy brenhinol.
21Dw i, y Brenin Artaxerxes, yn gorchymyn penaethiaid trysordai Traws-Ewffrates i roi i Esra'r offeiriad (yr arbenigwr yng Nghyfraith Duw'r nefoedd) beth bynnag mae'n gofyn amdano. 22Gallwch roi iddo hyd at dair tunnell a hanner o arian, 10 tunnell o wenith, 2,000 litr o win, 2,000 litr o olew olewydd, a faint bynnag o halen mae'n gofyn amdano. 23Dylid rhoi i'r deml, beth bynnag mae Duw'r nefoedd eisiau. Dw i ddim eisiau iddo ddigio gydag Ymerodraeth y brenin a'i feibion. 24Hefyd, dw i eisiau i chi ddeall fod gynnoch chi ddim awdurdod i godi trethi na thollau o unrhyw fath ar yr offeiriaid, y Lefiaid, y cerddorion, y porthorion, gweision y deml nac unrhyw un arall sy'n gofalu am deml y Duw yma.
25Yna ti, Esra. Defnyddia'r ddoethineb mae dy Dduw wedi ei rhoi i ti i ddewis barnwyr a swyddogion llys. Wedyn byddan nhw'n gallu delio gydag achosion y bobl hynny yn rhanbarth Traws-Ewffrates sy'n gyfarwydd â chyfraith dy Dduw; a dylid hyfforddi'r rhai hynny sydd ddim yn gwybod y Gyfraith. 26Bydd unrhyw un sy'n torri cyfraith dy Dduw a chyfreithiau'r brenin yn cael eu cosbi gyda'r ddedfryd briodol – cael eu dienyddio, cael eu halltudio, colli eu heiddo neu gael eu carcharu.”

Esra yn moli'r Arglwydd

27Bendith ar yr Arglwydd, Duw ein hynafiaid, sydd wedi gwneud i'r brenin fod eisiau cefnogi'r deml yn Jerwsalem! 28Mae wedi peri i'r brenin, ei gynghorwyr, a'i swyddogion pwysig eraill, fod mor garedig tuag ata i. Roeddwn i'n teimlo'n fwy a mwy hyderus wrth weld fod llaw yr Arglwydd arna i. A dyma fi'n casglu nifer o arweinwyr pobl Israel i fynd i Jerwsalem gyda mi.

Copyright information for CYM